Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth - Cymraeg yn Ddymunol

The Independent Office for Police Conduct · London Borough of Tower Hamlets

Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth - Cymraeg yn Ddymunol at The Independent Office for Police Conduct, based in London Borough of Tower Hamlets, paying £64,301 per annum. This is a permanent role.

Salary
£64,301 per annum
Location
London Borough of Tower Hamlets
Contract
Permanent
Posted
1 week ago
Closes
22 Aug 2026

Reference 275bf2b88930dd54b07095f67c2d4d2e50702ba4

About the role

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Mae'r dewis i brynu, i werthu, neu i gario gwyliau blynyddol drosodd yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac yn cael ei gynnig pan yn bosib
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth


Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign

Er na allwn warantu contract hirach neu fwy parhaol ar hyn o bryd, os gellir ymestyn y rôl neu ei gwneud yn un barhaol, gall deiliad llwyddiannus y swydd gael cynnig y rôl yn gyntaf heb gyfweliad ychwanegol.

Yn unol â Pholisi Recriwtio a Dethol SAYH, rydym yn argymell bod y cydweithwyr mewnol yn gwneud cais cynnar o fewn y saith diwrnod cyntaf, fel y gallwn weld os oes digon o ddiddordeb o fewn y sefydliad i gadw’r rôl yn fewnol am gyfnod llawn yr hysbyseb yn fyw.

Byddwn yn adolygu nifer y ceisiadau ar ôl y saith diwrnod cyntaf ac mae’n bosibl y caiff y rôl ei hysbysebu’n allanol ar ôl y cyfnod hwn.

Gweler y Canllawiau Polisi Recriwtio a Dethol, sydd ar gael ar yr Hyb, am ragor o wybodaeth.


Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.

O ystyried natur y gwaith, mae’n bosibl hefyd y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â [email removed] a gall hyn gael ei drefnu.

Cyflwyniad Swydd:

Fel Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth, byddwch yn rhan o dîm ymchwiliadau dynamig sy'n gweithio'n lleol ac yn genedlaethol ar bob math o ymchwiliadau yn y gyfarwyddiaeth Ymchwilio, Goruchwylio a Gwaith Achos. Byddwch yn cyfarwyddo ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag achosion argyfyngus, dadleuol a risg uchel.

Gyda'r Rheolwr Ymchwiliadau – Rheolwr Perfformiad ac Adnoddau ac Ymchwiliadau – Busnes Craidd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweiniad strategol i dimau o ymchwilwyr, sicrhau bod ymchwiliadau o ansawdd uchel, cadarn ac annibynnol yn cael eu darparu ac arddangos ein gwerthoedd craidd ym mhob agwedd ar eich rôl.

Byddwch yn atebol am ansawdd, prydlondeb ac effeithlonrwydd ymchwiliadau.

Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn y Grŵp Ymarferwyr Gweithredol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau; byddwch yn gosod safonau, yn ymwreiddio arfer da wrth wneud penderfyniadau, yn gweithredu fel arweinydd pwnc, yn cynnal prosesau sicrhau ansawdd ac yn darparu cefnogaeth gan gymheiriaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws y sefydliad.

Byddwch yn arwain ar Hawl Dioddefwyr i Adolygiad, byddwch yn benderfynwr ar ail-ymchwiliadau ac yn ailedrych ar benderfyniadau ymchwilio blaenorol.


Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi gwblhau 2 x Cwestiynau Didoliyn seiliedig ar y meini prawf hanfodol.

Amcangyfrifir i ddyddiadau asesu a chyfweld ddigwydd Dechrau Awst - Diwedd Medi

Arweinyddiaeth a chyffredinol:

Â

  • Darparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth weithredol i dimau ymchwilio i sicrhau bod ymchwiliadau cadarn o ansawdd uchel yn cael eu cyflawni.Â
  • Sicrhau bod ymchwiliadau cyson ac o ansawdd uchel yn cael eu cyflawni yn erbyn targedau polisi a pherfformiad.Â

Trawsnewid:

Â

  • Gweithio ar y cyd â chydweithwyr i sicrhau bod uchelgeisiau IOPC yn cael eu cyflawni.
  • Cymryd rhan weithredol yn rhaglen Trawsnewid IOPC i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y gall IOPC yn unig ei wneud a darparu ymchwiliadau effeithiol, amserol ac o ansawdd uchel.

Cyflawni:

Â

  • Datblygu a gweithredu canllawiau, hyfforddiant ac arferion gorau ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y Grŵp Ymarferwyr Gweithredol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau, gan gynnal cysondeb ac uniondeb ar draws pob achos.Â
  • Ailymweld â phenderfyniadau ar ôl achos troseddol, cwest ac achos disgyblu; darparu adolygiad cymheiriaid a chefnogaeth i Wneuthurwyr Penderfyniadau eraill, a chydweithwyr yn y tîm Cyfarwyddyd Achos Ymchwiliadau.Â

Cyfrifoldeb Corfforaethol:Â

  • Lleihau'r risg i IOPC trwy sicrhau bod pob penderfyniad a gweithred yn gyson ac yn cyd-fynd ag arferion gorau. Â Â

Â

Penderfyniadau:

  • Arwain ar ddarparu penderfyniadau arbenigol mewn achosion cymhleth ac argyfyngus; sicrhau bod yr holl ystyriaethau cyfreithiol, moesegol a gweithredol perthnasol yn cael eu hystyried.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu:

Â

  • Gweithredu dull cydweithredol gyda rhanddeiliaid allweddol sydd â chyfrifoldebau gwneud penderfyniadau (Timau Uned Cyfreithiol, Ansawdd a Chyflwyno) gan sicrhau mewnbwn a safbwyntiau perthnasol.

Â

Cymhwysedd Diwylliannol, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

  • Dangos ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sensitifrwydd wrth wneud penderfyniadau, gan gydnabod cefndiroedd a safbwyntiau amrywiol.


Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd am gyfrifoldebau llawn y rôl.

Yr Ymgeisydd Delfrydol:

Profiad

  • Profiad profedig o arwain a rheoli timau mewn ymchwiliadau cymhleth a phroffil uchel, yn ddelfrydol o fewn cyd-destun rheoleiddio, goruchwylio neu sector cyhoeddus.
  • Profiad profedig o ymchwilio neu arwain ymchwiliadau.
  • Arweinydd profiadol gyda hanes o weithio'n effeithiol gydag eraill.
  • Profiad o reoli ariannol.
  • Dealltwriaeth o reoli a gofalu am oroeswyr a dioddefwyr troseddoldeb, yn benodol cam-drin rhywiol.
  • Hanes cryf o ddarparu cyfeiriad strategol i sicrhau bod ymchwiliadau o ansawdd uchel, annibynnol a chadarn yn cael eu cyflawni.
  • Profiad o sbarduno timau i gyflawni lefelau uchel o berfformiad a gwelliant parhaus.
  • Dangos gallu i oruchwylio a chyfarwyddo timau, gan gynnwys cynllunio gweithlu, dyrannu adnoddau a rheoli blaenoriaethau ymchwilio.
  • Profiad profedig o fethodoleg ac egwyddorion ymchwiliadau a gymhwysir i ymchwiliadau cymhleth, mawr a heriol.
  • Profiad o weithio fel rh

Reference: 275bf2b88930dd54b07095f67c2d4d2e50702ba4 · Posted 1 week ago · Closes 22 Aug 2026 · Listed via The Independent Office for Police Conduct

Know someone who'd be great for this? Get a shareable card

Apply for this job

This role is listed via The Independent Office for Police Conduct. Applications are handled on the employer's site.

Apply on employer site

Opens the employer's website in a new tab.

Safe applying: a genuine employer will never ask you to pay for a DBS check, training or equipment, or move you onto WhatsApp before you are hired. If this listing does, report it and do not pay anything.

Report this job
Salary £64,301 per annum
Apply now