Pembrokeshire Coast National Park Authority
Gweinyddwr Datgarboneiddio’r Fflyd Cerbydau
Gweinyddwr Datgarboneiddio’r Fflyd Cerbydau at Pembrokeshire Coast National Park Authority, based in Pembroke Dock, Wales, paying £27,709 - £28,142 per annum. This is a permanent role.
- Pay
- £27,709 - £28,142 per annum
- Hours and contract
- Permanent · On site
- Location
- Pembroke Dock, Wales
- Closing date
Reference 5AUIP
About the role
Gweinyddwr Datgarboneiddio’r Fflyd Cerbydau
Rhan-amser 22 awr yr wythnos dros 5 diwrnod (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyflog Graddfa 3 | Pencadlys Llanion, Doc Penfro
Swydd yw hon i reoli’r fflyd cerbydau yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gynyddol gynaliadwy yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Rydym yn chwilio am Weinyddwr Datgarboneiddio’r Fflyd Cerbydau sy’n drefnus ac yn ddibynadwy i gydlynu’r gwaith gweinyddol dyddiol o reoli ein cerbydau, a chynorthwyo gwaith ehangach ein tîm Datgarboneiddio.
Ynglŷn â'r swydd
Mae hon yn swydd amrywiol ac ymarferol i gyflawni’r canlynol:
• Cydlynu’r gwaith o wasanaethu cerbydau, y cynnal a chadw, y galwadau yn ôl am resymau diogelwch, ac adnewyddu treth cerbydau.
• Cynnal cofnodion cywir am y fflyd, y treuliau a’r data carbon.
• Cysylltu â gyrwyr, cydweithwyr, yswirwyr, cyflenwyr a chwmnïau llogi allanol.
• Goruchwylio’r trefniadau cerbydau pwll a llogi cerbydau allanol.
• Cynhyrchu adroddiadau a chlustnodi ffyrdd o wella prosesau’r fflyd.
• Cynnal gweithrediadau ein pencadlys yn gadarn, gan gynnwys agor a chau'r swyddfa pan fydd gofyn.
Amdanoch chi
Byddwch yn weinyddwr effeithiol â sgiliau trefnu rhagorol a sylw manwl i fanylion. Yn gyfforddus yn rheoli blaenoriaethau cystadleuol, byddwch yn cyfathrebu'n hyderus ag ystod eang o bobl ac yn gweithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os oes gennych y canlynol:
• Profiad gweinyddol blaenorol.
• Trwydded yrru lawn yn y DU.
• Gwybodaeth dda am Microsoft 365.
• Dealltwriaeth o arfer da o ran cynnal a chadw cerbydau.
• Sgiliau cadarn o gyfathrebu, cynllunio, rheoli amser a datrys problemau.
• Agwedd hyblyg, gyfrifol a dibynadwy.
Byddai profiad o weinyddu fflyd, prosesau ariannol neu gaffael yn fantais. Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, a gall yr Awdurdod gynorthwyo gweithwyr i ddatblygu eu sgiliau lle bo angen.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (sydd ar gael i'w lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £27,709- 28,142 (pro rata) y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o’ch cais, anfonwch e-bost at [email removed] neu ffoniwch [phone removed]. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n defnyddio cwn cymorth a byddwn yn sicrhau y gallant fod gyda chi drwy gydol y broses recriwtio. Os oes angen unrhyw drefniadau penodol neu gymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion. Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, gan gynnwys Word, PDF hygyrch, print bras, sain a fformatau eraill ar gais.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau: 25/10/2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
• Deallwn y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer megis deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo’r gwaith o baratoi eu cais. Er y caniateir defnyddio’r cyfryw offer, cyfrifoldeb llwyr yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn cynrychioli eu sgiliau, eu profiadau a'u cymwysterau hwy eu hunain.
• Gall cyflwyno gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu wedi'i gorliwio, p'un a gafodd y wybodaeth ei chynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial ai peidio, olygu eich bod yn anghymwys i fod yn rhan o'r broses recriwtio neu olygu eich diswyddo os caiff hynny ei ddarganfod ar ôl penodi.
• Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Date Posted:
13th October 2026
Job Ref:
FDA1026
Type:
Permanent
Status:
Part Time
Share this Job
Connect
Reference: 5AUIP · Posted 1 week ago · Closes 17 Nov 2026 · Listed via Pembrokeshire Coast National Park Authority
Apply for this job
This role is listed via Pembrokeshire Coast National Park Authority. Applications are handled on the employer's site.
Apply on employer siteOpens the employer's website in a new tab.
Safe applying: a genuine employer will never ask you to pay for a DBS check, training or equipment, or move you onto WhatsApp before you are hired. If this listing does, report it and do not pay anything.