Swyddog Asesu Effaith Diogelu Data (DPIA) - Secondiad tan Orffennaf 2027

The Independent Office for Police Conduct · Birmingham, England

Swyddog Asesu Effaith Diogelu Data (DPIA) - Secondiad tan Orffennaf 2027 at The Independent Office for Police Conduct, based in Birmingham, England, paying £37,596 per annum. This is a permanent role.

Salary
£37,596 per annum
Location
Birmingham, England
Contract
Permanent
Posted
19 hours ago
Closes
29 Aug 2026
Sector
Data Entry

37% below the typical rate for data entry

Reference 5da42718798d97555dddf043ff403793523a976a

About the role

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Mae'r dewis i brynu, i werthu, neu i gario gwyliau blynyddol drosodd yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac yn cael ei gynnig pan yn bosib
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth


Gwybodaeth Ychwanegol:

Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, gallwch ddod i gysylltiad achlysurol â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.

O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â [email removed] a gall hyn gael ei drefnu.


Cyflwyniad Swydd:

Rydym yn chwilio am Swyddog Asesu Effaith Diogelu Data (DPIA) rhagweithiol i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein fframwaith diogelu data. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws y sefydliad i nodi pryd mae angen DPIAs, asesu risgiau preifatrwydd, datblygu mesurau lliniaru a darparu cyngor ymarferol ar ddiogelu data. Mae hyn yn gyfle gwych i rywun sydd â sgiliau dadansoddol cryf ac angerdd am breifatrwydd, llywodraethu a chydymffurfiaeth.

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau lefel Uwch Swyddog Gweithredol (HEO) canlynol yn ystod y broses ddethol:

  • Newid a Gwella
  • Cyfathrebu a Dylanwadu

Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, i ddarganfod mwy, cliciwchyma.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi gwblhau tri Cwestiwn Hidlo yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol.

Yn ystod y broses recriwtio byddwn yn asesu eich Profiad, Cryfderau a Gwerthoedd.

Amcangyfrifir y bydd y dyddiadau asesu a chyfweliadau yn Awst 2026.

  • Bydd y rôl yn gyfrifol am nodi'r angen am DPIAau (Asesiadau Effaith Diogelu Data) ac asesu sgrinio DPIA
  • Disgwylir iddynt gefnogi’r broses o greu DPIAau
  • Fel rhan o broses adolygu DPIA bydd angen iddynt hefyd adolygu a diweddaru DPIA presennol, gan weithio gyda'r busnes i fynd i'r afael ag unrhyw risgiau sy'n parhau
  • Fel rhan o bob DPIA bydd angen iddynt asesu unrhyw risgiau mewn perthynas â rhaglenni newid
  • Disgwylir iddynt weithio gyda'r meysydd busnes perthnasol i nodi lliniariad priodol ar gyfer y risgiau a nodwyd

Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd am gyfrifoldebau llawn y rôl.

Yr Ymgeisydd Delfrydol:

Y gofynion hanfodol yw:

  • Rhaid cael profiad mewn Rôl Diogelu Data neu fod yn ymarferydd GDPR cymwys
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
  • Y gallu i weithio o dan bwysau a blaenoriaethu tasgau, gan weithio i derfynau amser llym a rhai sy’n gwrthdaro
  • Datrys problemau a phrofiad o liniaru risg
  • Y gallu i ymchwilio i ddeddfwriaeth a chanllawiau rheoleiddiol perthnasol a'u dehongli
  • Deall fframwaith rheoleiddiol Diogelu Data
  • Dangos lefel uchel o sylw i fanylion a'r gallu i weithio'n gywir
  • Profiad profedig o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd tîm
  • Lefel dda o sgiliau TGCh a rhwyddineb defnyddio systemau a chymwysiadau TG gan gynnwys MS Word, Excel, a Power Point, SharePoint a phrofiad o ddefnyddio systemau rheoli achosion.
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gan gynnwys tact, disgresiwn, a rhywfaint o brofiad o gysylltu â chynrychiolwyr o asiantaethau allanol

Y gofyniad dymunol yw:

  • Profiad o'r PRA a deddfwriaeth plismona arall
  • Ymwneud blaenorol gyda hyrwyddo neu gefnogi newid ymddygiad

Sgiliau a Galluoedd

  • Sgiliau gweinyddol cadarn, gallu trefnu a blaenoriaethu dan bwysau a chwrdd â therfynau amser neu negodi amdanynt.
  • Sgiliau datrys problemau rhagorol, gallu i nodi, asesu a lliniaru problemau, materion a risgiau
  • Gallu cynnal ymchwil a dadansoddiadau annibynnol
  • Sgiliau priodol i'r rôl, gyda'r gallu i amsugno/trefnu gwybodaeth newydd i sicrhau bod rhywun wedi'i friffio'n dda ar bynciau newydd.
  • Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol (ysgrifenedig a llafar) cryf.
  • Blaenoriaethu i sicrhau bod amcanion allweddol y rôl yn cael eu cyflawni'n gyson.
  • Gallu gofyn cwestiynau mewn modd adeiladol a chefnogol

Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.

Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Rydym yn credu fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at le gwaith mwy arloesol a bywiog. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tan-gynrychioli neu o dan anfantais yn y gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, yn cynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob ymgeisydd ac i greu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi

Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS

National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)


Addasiadau Rhesymol:

Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.

Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.


Byddwch chi'ch hun:

Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.

  • Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle. Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.
  • Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn

Reference: 5da42718798d97555dddf043ff403793523a976a · Posted 19 hours ago · Closes 29 Aug 2026 · Listed via The Independent Office for Police Conduct

Know someone who'd be great for this? Get a shareable card

Apply for this job

This role is listed via The Independent Office for Police Conduct. Applications are handled on the employer's site.

Apply on employer site

Opens the employer's website in a new tab.

Safe applying: a genuine employer will never ask you to pay for a DBS check, training or equipment, or move you onto WhatsApp before you are hired. If this listing does, report it and do not pay anything.

Report this job
Salary £37,596 per annum
Apply now